Croeso
Mae PentrePeryglon yn ganolfan ryngweithiol sy’n darparu addysg diogelwch benodol i blant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru.
Agorwyd ym mis Hydref 2005, mae PentrePeryglon yn elusen gofrestredig sydd wedi cael ei datblygu gan nifer o sefydliadau sy’n cynnwys Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru a BHP Billiton Petroleum Ltd.
Mae gennym Geidwaid Call o’r radd flaenaf ac mae PentrePeryglon wedi cael ei chynllunio i ysbrydoli, rhoi gwybodaeth ac ymgysylltu gyda grwpiau. Mae’n ffordd ardderchog o addysgu’r gymuned mewn sgiliau bywyd hanfodol.
Newyddion diweddaraf
Diwrnod agored PentrePeryglon
Bydd PentrePeryglon yn dal diwrnod agored ar y 4ydd o fis Awst, 10yb-3yp. Hoffwn gymryd y cyfle yma i wahodd gweithwyr a’u teuluoedd i fynychu ein digwyddiad (dydy’r digwyddiad yma dim ar agora r gyfer y cyhoedd cyffredinol).
Rydym wedi croesawu ein 30,000 ymwelwr i’r Ganolfan yn diweddar ac hefyd wedi ennill y Bathodyn Ansawdd Cyngor Dysgu y Tu Allan i’r Ystafell Ddosbarth.
Yn ystod eich ymweliad, cewch y cyfle i:
- Dderbyn taith o amgylch y ganolfan,
- Derbyn copi o ein llyfryn gweithgareddau newydd,
- Cael mwy o ddealltwriaeth o’r gwaith rydym yn ei wneud,
- Adnabod gwahanol ffyrdd o gydweithio â’n gilydd yn y dyfodol.
Bydd eich daith crynodeb o amgylch y ganolfan yn cymryd tua awr ac yn cychwyn ar yr awr o 10yb – gyda’r daith olaf yn cychwyn am 2yp.
Os hoffech ddod i’n diwrnod agored, byddem yn gwerthfawrogi petaech yn codi’r ffôn - 01745 850414 neu ebostio bookings@dangerpoint.org.uk i drefnu amser eich taith. Os hoffech mwy o wybodaeth, cysylltwch ag un o’r tîm ar 01745 850414.
Edrychwn ymlaen at eich gweld ar yr 4ydd o Awst 2010.
Tîm PentrePeryglon



