Beth yw PentrePeryglon?
Datganiad o Weledigaeth:
I addysgu plant a phobl ifanc ymwybyddiaeth o ddiogelwch er mwyn gostwng y nifer o achosion o farwolaethau a anafiadau damweiniol, ac i hybu iechyd, lles a Diogelwch Cymunedol.
Amcanion:
- Hybu ymwybyddiaeth plant a phobl ifanc o’r risgiau sydd yn eu amgylchedd gan eu galluogi i wneud dewisiadau gwybodus am eu diogelwch, iechyd a lles.
- Sicrhau fod y profiad a geir ym MhentrePeryglon yn cael effaith hir dymor buddiol ar blant, pobl ifanc a theuluoedd.
- Hyrwyddo a gweithredu’r ymarfer diogelwch gorau mewn partneriaeth efo GTAGC,HGC,BHP a’r Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Gogledd Cymru ynghyd ag asiantaethau statudol ac elusennau eraill.
- Bod yn ganolfan rhagoriaeth cydnabyddedig ym mhob agwedd o ddiogelwch, iechyd a lles plant a phobl ifanc.
Nodau:
- Darparu awyrgylch addysgol rhyngweithiol ddwyieithog gyda gwybodaeth ac adnoddau diweddar am ddiogelwch.
- Darparu Ceidwaid wedi eu hyfforddi sy’n ymroddedig i ethos PentrePeryglon.
- Hybu a chynnal ymchwil i werthuso a pharhau i wella’r profiad a geir ym MhentrePeryglon.
- Darparu cyfleon a facilities ar gyfer dysgu, addysg a hyfforddi ffurfiol ac anffurfiol.
- Cysylltu a chydweithio efo cyrff a chleientiaid eraill.
- Darparu gwasanaeth ymgynhorol lle bo hynny’n addas.
- Datblygu deunydd a gwybodaeth addysgol i gefnogi’r cwricwlwm cenedlaethol.
- Sicrhau cynhaliaeth ariannol hir dymor i BentrePeryglon trwy hyrwyddiad a chodi arian bywiog