header

Welcome to Danger Point

ENGLISH

Diogelwch ar y Ffordd

Yn ogystal â gwaith PentrePeryglon gyda phlant cyfnod allweddol 2 rydym hefyd yn gweithio gyda nifer o yrwyr ifanc a’u cyfoedion. Nod ein gwaith diogelwch ffordd yw cynnwys ac addysgu plant a phobl ifanc mewn gwahanol elfennau o ddiogelwch y ffyrdd fel y dôn tyn ddefnyddwyr ffyrdd cyfrifol.
Pobl ifanc rhwng 17 a 25 oed yw un o’r grwpiau mwyaf agored i niwed sy’n cael eu hanafu’n ddifrifol neu eu lladd ar ffyrdd. Rhan o ffocws PentrePeryglon yw bwrw ‘mlaen gyda Mentrau Diogelwch y Ffordd i bobl ifanc yn y ganolfan ac mewn lleoliadau eraill ar draws Gogledd Cymru.

Cerbyd Cysylltiad Heddlu Gogledd Cymru: Mae’r cerbyd hwn yn mynd i sawl lleoliad ar draws Gogledd Cymru er mwyn gweithio gyda gyrwyr ifanc. Fe’i defnyddir i egluro sut mae cyflymder, gwregysau diogelwch, ffonau symudol, diod, cyffuriau a phwysau gan ffrindiau yn cynyddu’r peryglon ar gyfer y grŵp oedran hwn. Os oes gennych ddigwyddiad fyddai, yn eich barn chi, yn addas ar gyfer y fan yna e-bostiwch van@dangerpoint.org.uk neu cysylltwch â’ch tîm plismona cymdogol lleol.


                           


Cynllun Addysg Moduro: Datblygwyd y cynllun hwn er mwyn addysgu pobl ifanc ynglŷn â’r peryglon sy’n ymwneud â throseddau cerbydau. Mae’n dod ag Awdurdodau Lleol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a PhentrePeryglon at ei gilydd, er mwyn ceisio lleihau troseddu’n ymwneud â cherbydau a lleihau’r nifer o bobl ifanc gaiff eu hanafu mewn damweiniau ffordd. Hyd yma, mae dros 100 o bobl ifanc wedi cymryd rhan yn y rhaglen ddyfeisgar hon. Ers ei gychwyniad, mae’r cynllun wedi mynd o nerth i nerth ac yn ddiweddar, datblygwyd DVD addysgiadol a phecyn i gyd-fynd ag ef. Mae Partneriaeth Camera Diogelwch Ffordd Gogledd Cymru, Siwrne Saff, wedi bod yn garedig iawn ac wedi noddi’r digwyddiad diweddaraf yn Sir y Fflint.


                           

Wythnos Genedlaethol Diogelwch y Ffordd: Bob blwyddyn, mae PentrePeryglon yn trefnu digwyddiad wythnos o hyd er mwyn cefnogi’r ymgyrch diogelwch ffordd genedlaethol. Yn y gorffennol, defnyddiwyd themâu megis gyrwyr ifanc, diogelwch beicio a cherdded i’r ysgol yn ddiogel. Yn y blynyddoedd a fu, bu Toyota’n hael iawn yn darparu fest lachar i bob plentyn oedd yn ymweld â’r ganolfan yn ystod yr wythnos hon. Y llynedd, cynhaliwyd y digwyddiad rhwng y 10fed a’r 14eg o Dachwedd. Cynhaliwyd tridiau o weithgareddau ar gyfer plant blwyddyn 6 a’r ddau ddiwrnod arall yn canolbwyntio ar fyfyrwyr blwyddyn 12.