DangerPoint

Y Ganolfan

Trosolwg o'r Ganolfan

Dyma drosolwg o Pentre Peryglon. Os hoffech weld diagram o'r ganolfan, cliciwch yma.

Diogelwch ar y Ffyrdd Diogelwch cerddwr, beicwyr a gyrwyr ifanc. Pellteroedd brecio ayyb. Dillad diogelwch a llachar. Troseddau ceir, effaith alcohol a chyffuriau, camddefnyddio ffonau symudol. Diogelwch fel teithiwyr mewn car.
Diogelwch ar y Rheilffyrdd Canlyniadau fandaliaeth, tresmasu ar y rheilffyrdd a theithio heb docyn dilys. Canllawiau ar gyfer teithio'n ddiogel.
Diogelwch ar y Bysus Troseddau a fandaliaeth ar fysus. Diogelwch ar Fysus Ysgol.
Diogelwch Garej a Char Defnyddio gwregysau diogelwch a ffonau symudol. Dwyn. Ceir wedi eu gadael/llosgi - effaith amgylcheddol?
Diogelwch Trydan Is-orsaf gwir faint yn dangos sut gall trydan "neidio". Peryglon hedfan barcutiaid a physgota o dan geblau trydan. Canlyniadau fandaliaeth.
Diogelwch Dwr Traethau, llynnoedd ac afonydd. Deall baneri. Sut i ymateb os ydych yn gweld rhywun mewn perygl, a sut mae gwneud hynny heb beryglu eich hun. Cysylltiadau â chymorth cyntaf - adfywio ceg wrth geg ayyb. Pethau yn y tywod ar y traeth.
Cymorth Cyntaf Ymarfer da o safbwynt cymorth cyntaf i blant.
Diogelwch ar Ffermydd Peryglon ar ffermydd - peidiwch â mynd yno heb gael eich goruchwylio neu eich gwahodd. Peidiwch byth â chwarae gydag offer fferm. Anifeiliaid peryglus.
Fandaliaeth / Gostwng trosedd / Ymddygiad gwrthgymdeithasol Diogelwch arian, peiriannau "twll yn y wal" a thwyll. Senarios i blant ac oedolion gyda chysylltiadau â diogelwch yn y cartref. Mater o ddewis - cyffuriau cyfreithlon a'u camddefnydd. Pwysau gan gyfoedion. Nodwyddau wedi'u taflu, bwlio yn yr ysgol ayyb. Effaith troseddau ar ddioddefwyr.
Diogelwch Tân Golygfa sy'n dangos peryglon tân, mwg a fandaliaeth. Bin olwynion gyda golau'n fflachio. Negeseuon tymhorol e.e. tân gwyllt. Atal tân, a beth ddylech chi ei wneud os oes tân. Tanau bwriadol.
Diogelwch yn y Cartref a'r Ardd Diogelwch tân yn y cartref. Baglu, sgaldio a sioc drydanol. Adnabod peryglon.
Diogelwch ar Safleoedd Adeiladu Mae safleoedd adeiladu yn llefydd peryglus. Ni ddylai plant byth fynd yn agos atynt. Mae fandaliaeth ar safleoedd adeiladu yn peryglu bywydau.
Strydoedd Cefn Tywyll Cyffuriau a'r canlyniadau o'u defnyddio.
Diogelwch Personol Dydi pobl ar y we ddim bob amser yn dweud y gwir o safbwynt pwy ydyn nhw. Peidiwch byth â datgelu rhifau ffôn na chyfeiriadau dros y we. Peidiwch byth dan unrhyw amgylchiadau â threfnu i gyfarfod neb yr ydych wedi ei gyfarfod dros y we. Dysgwch eich mam i anfon negeseuon testun. Bwlio trwy gyfrwng negeseuon testun.
Siopau ac Arian Prynu pethau sydd â chyfyngiadau oed. Camddefnyddio alcohol, sylweddau a meddyginiaethau. Dwyn o siopau a'r canlyniadau.
Y Parc Bwlio a phwysau gan gyfoedion; sut i ddelio â hynny a sut i frwydo yn ei erbyn.
Diogelwch mynyddoedd / awyr agored Ymarfer da sylfaenol wrth wneud gweithgareddau awyr agored. Offer diogelwch, ymwybyddiaeth o'r tywydd.

Site Search

How To Find Us

Pentre Peryglon
Parc Busnes
Ffordd yr Orsaf, Talacre
Sir y Fflint CH8 9RD

Ffôn: 01745 850414
copyright