Adnoddau
Cyn yr Ymweliad
Cyflwyniad
Diolch am drefnu ymweliad â Phentre Peryglon - rydym yn gobeithio y gwnewch chi a'ch disgyblion elwa o'r ymweliad, ac yr un mor bwysig, y gwnaiff hyn gefnogi eich gwaith yn ôl yn yr ysgol. Mae'r adnoddau i'w defnyddio cyn yr ymweliad wedi eu cynllunio i roi cymorth i'r dosbarth gynefino â rhai o'r gweithgareddau y byddant yn cael profiad ohonynt yn ystod yr ymweliad.
(Mi fydd defnyddiau ar gael i roi cymorth i chi ar ôl yr ymweliad i Bentre Peryglon. Mae hyn yn cynnwys enghreifftiau o weithgareddau ac adnoddau, wedi eu cysylltu a 'r senarios yn y Ganolfan, sydd wedi eu cynllunio i gryfhau neges allweddol y Ganolfan.)
Ar ôl yr ymweliad Mae'n bosibl cael Enw Defnyddiwr a Chyfrinair i roi mynediad i'r adnoddau i'w defnyddio wedi'r ymweliad.
Os oes gennych Enw Defnyddiwr a Chyfrinair, mewngofnodwch i'r rhan adnoddau.

